Ezekiel 25

Negeseuon am y gwledydd
25:0 Mae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Amos 1-2; Eseia 13-23; Jeremeia 46-51. Mae'n ein hatgoffa mai Duw ydy'r unig wir Dduw, a'i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.

Ammon

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw. 3Dywed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr Arglwydd, i chi. Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo. 4Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi. 5Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.

6“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn
25:6 ysgwyd dwrn Hebraeg, “curo dwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio.
a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio,
7dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd!’”

Moab a Seir

8“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall! 9Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim. 10Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl. 11A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd!’”

Edom

12“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’ 13Ie, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman
25:13 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11.
i Dedan yn y de.
14Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr Arglwydd.’”

Philistia

15“Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau ei dinistrio hi. 16Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid
25:16 Enw arall ar y Philistiaid, oedd wedi dod o Creta yn wreiddiol.
a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir.
17Dw i'n mynd i ddial arnyn nhw a'u cosbi nhw'n wyllt. A pan fydda i'n dial, byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd!’”

Copyright information for CYM